NEWYDDION CANOLFAN MILENIWM CYMRU – RHAGFYR 2019

NEWYDDION CANOLFAN MILENIWM CYMRU – RHAGFYR 2019

  • THE MIRROR CRACK’D I GAEL EI PHERFFORMIO YNG NGHANOLFAN CELFYDDYDAU PERFFORMIO FWYAF INDIA
  • SIOE NEWYDD GAN GANOLFAN MILENIWM CYMRU: THE BEAUTY PARADE YN CYFUNO FFURFIAU AR GELFYDDYD POBL FYDDAR A PHOBL SY’N CLYWED ER MWYN ADRODD STORI RYFEDDOL O GYFNOD YR AIL RYFEL BYD
  • RHOD GILBERT YN DYCHWELYD I’R GANOLFAN GYDA SIOE NEWYDD SBON
  • CYHOEDDI’R CAST AR GYFER A MONSTER CALLS
  • CYHOEDDI CAST LLAWN TAITH GYNTAF PRYDAIN O ONCE
  • CYHOEDDI’R CAST LLAWN AR GYFER EVERYBODY’S TALKING ABOUT JAMIE
  • BRING IT ON THE MUSICAL YN TEITHIO I GANOLFAN MILENIWM CYMRU
  • TAITH PRYDAIN O THE LION, THE WITCH AND THE WARDROBE YN DOD I’R GANOLFAN
  • STRICTLY BALLROOM YN DAWNSIO EI FFORDD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU

__________________________________________________________________________________


CYNHYRCHIAD CANOLFAN MILENIWM CYMRU A WILTSHIRE CREATIVE, THE MIRROR CRACK’D, I GAEL EI LWYFANNU YNG NGHANOLFAN CELFYDDYDAU PERFFORMIO FWYAF INDIA

Bydd cynhyrchiad newydd o ddrama Canolfan Mileniwm Cymru a Wiltshire Creative The Mirror Crack’d yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Perfformio Genedlaethol India yn Mumbai, rhwng 30 Ionawr a 9 Chwefror 2020.

Cafodd y cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol o nofel Agatha Christie, The Mirror Crack’d from Side to Side, a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Rachel Wagstaff a’i gyfarwyddo gan Melly Still, ei weld gan fwy na 28,000 o bobl yng Nghaersallog, Dulyn, Caergrawnt a Chaerdydd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2019.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei ailddychmygu ar gyfer cynulleidfaoedd India gan y dramodydd Ayeesha Menon, gyda Melly Still yn dychwelyd fel cyfarwyddwr. Hon fydd menter gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru fel cynhyrchydd yn Asia.

__________________________________________________________________________________________

THE BEAUTY PARADE KAITE O’REILLY A CHANOLFAN MILENIWM CYMRU YN CYFUNO FFURFIAU AR GELFYDDYD POBL FYDDAR A PHOBL SY’N CLYWED ER MWYN ADRODD STORI RYFEDDOL O GYFNOD YR AIL RYFEL BYD

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi sioe theatr newydd ac arloesol o dan arweiniad menywod, wedi’i gwneud gan artistiaid Byddar ac artistiaid sy’n clywed. Mae The Beauty Parade wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, a’i bwriad yw anrhydeddu arwyr di-glod un o ymgyrchoedd mwyaf unigryw’r Ail Ryfel Byd…

Rydyn ni yn y pedwardegau, yng nghanol gofid rhyfel. Mae dynion yn brwydro ar flaen y gad. Dyw’r menywod ddim yn cymryd rhan yn y brwydro; nhw sy’n cadw’r tân ynghyn ar yr aelwyd, yn cadw’r ffatrïoedd i fynd, ac yn rhoi bwyd ym moliau’r plant. Neu dyna oedd y stori swyddogol.

Roedd Confensiwn Genefa yn gwahardd menywod rhag cymryd rhan mewn dyletswyddau arfog, felly aeth y Gweithgor Ymgyrchoedd Arbennig ati i recriwtio byddin gyfrinachol o ddinasyddion, gan gynnwys menywod ifanc o Gymru a Lloegr oedd yn medru Ffrangeg. Ychydig wythnosau o hyfforddiant gafodd y menywod yma cyn cael eu rhoi ar waith gyda’r Gwrthsafiad yn Ffrainc, gan baratoi, yng ngeiriau Churchill, ‘i droi Ewrop gyfan yn wenfflam’.

Y dramodydd llwyddiannus Kaite O’Reilly, y cyfansoddwr Rebecca Applin a’r perfformiwr a’r arbenigwr ar iaith weledol Sophie Stone sydd wedi creu’r cynhyrchiad newydd yma sy’n dilyn grŵp o fenywod cyffredin a gipiwyd o ddinodedd a’u parasiwtio y tu ôl i linellau’r gelyn, a’u siarsio i beidio sôn gair wrth neb eu bod yn rhan o un o ymgyrchoedd peryclaf y rhyfel.

Mae’r Beauty Parade yn cynnwys cerddoriaeth fyw, caneuon atgofus, iaith weledol a sgwrsio, ac mae’n gweithio mewn ffordd gynhwysol rhwng diwylliannau pobl F/fyddar a phobl sy’n clywed i gynnig dehongliad amlsynnwyr o’r stori wir anhygoel yma.

Bydd The Beauty Parade yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 5 ac 14 Mawrth 2020.

__________________________________________________________________________________________

RHOD GILBERT YN DYCHWELYD I’R GANOLFAN GYDA SIOE NEWYDD SBON

Yn dilyn saith mlynedd o egwyl o fyd standyp, mae’r digrifwr sydd wedi ennill llu o wobrau yn ôl gyda sioe fyw newydd sbon. Mae Rhod, un o sêr disgleiriaf Cymru, wedi bod ar daith o gwmpas gwledydd Prydain ers mis Chwefror – ei daith gyntaf ers 2012. Yn dilyn galw anhygoel, mae dyddiadau newydd wedi’u hychwanegu ac mae’r daith wedi’i hymestyn tan fis Ebrill 2020, gan ddod â chyfanswm nifer y sioeau i dros 130. Mae dyddiad newydd yng Nghaerdydd wedi’i ychwanegu, sef dydd Sul 22 Mawrth 2020, ac mae’n fwriad recordio’r perfformiad arbennig yma ar gyfer ei ryddhau yn y dyfodol.

Mae llawer wedi digwydd i Rhod yn ystod y saith mlynedd ers ei daith ddiwethaf. Mae llawer ohono yn s**t. A phan oedd yn meddwl ei fod wedi cyrraedd y gwaelodion, daeth wyneb yn wyneb â rhyw foi… o’r enw John. Mae Rhod mor ddoniol ag erioed, ond cawn olwg wahanol arno yn y sioe yma hefyd. Mae ‘The Book of John’ yn gignoeth, yn bersonol ac yn giaidd o onest; dim rhagor o gelwydd, dim rhagor o nonsens. Dyma Rhod, ond yn wahanol; yr un peth, ond ddim yr un peth chwaith. Dewch draw i weld drosoch chi eich hunain.

Bydd Rhod Gilbert The Book of John yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Sul 22 Mawrth 2020.

__________________________________________________________________________________________

CYHOEDDI’R CAST AR GYFER A MONSTER CALLS

Mae’r cast wedi’i gyhoeddi ar gyfer taith Prydain o’r sioe sydd wedi ennill Gwobr Olivier, A Monster Calls. Mae’r cast llawn yn cynnwys Greg Bernstein (Harry), Kaye Brown (Mam-gu), Rafaella CovinoAmmar Duffus (Conor), Keith Gilmore (Monster), Jade Hackett (Sully), Cora Kirk (Lily), Kel Matsena (Anton), Maria Omakinwa (Mam), Sarah Quist (Miss Godfrey), Ewan Wardrop (Dad) a Sam Wood.

Mae’r bachgen tair ar ddeg oed Conor a’i fam wedi bod yn ymdopi’n iawn diolch ers i’w dad symud i ffwrdd. Ond nawr, mae ei fam yn sâl a ddim yn gwella. Mae ei fam-gu’n mynnu ymyrryd o hyd ac mae plant yr ysgol yn gwrthod edrych ym myw ei lygaid. Yna, un noson, caiff Conor ei ddeffro gan rywbeth wrth ei ffenest. Mae anghenfil ar gerdded. Mae wedi dod i adrodd straeon wrth Conor am yr adegau pan mae wedi bod ar gerdded o’r blaen. Ac ar ôl iddo orffen, rhaid i Conor adrodd ei stori ei hunan a wynebu ei ofnau dyfnaf.

Daw nofel dreiddgar Patrick Ness yn fyw yn y cynhyrchiad yma sydd wedi ennill Gwobr Olivier, gan y cyfarwyddwr ysbrydoledig Sally Cookson. Mae A Monster Calls yn cynnig cipolwg syfrdanol ar gariad, bywyd a iachâd.

Bydd A Monster Calls yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 28 Ebrill a 2 Mai 2020.

__________________________________________________________________________________________

CYHOEDDI’R CAST LLAWN AR GYFER ONCE

Mae’r cast llawn wedi’i gyhoeddi ar gyfer taith fawr gyntaf Once o gwmpas gwledydd Prydain. Yn ymuno â’r enwau a gyhoeddwyd eisoes, sef Daniel Healy fel Guy ac Emma Lucia fel Girl, bydd Dan Bottomley fel Billy, Matthew Burns fel Eamon, Ellen Chivers fel Reza, Rosalind Ford fel Cyn-Gariad, Lloyd Gorman fel Svejc, David Heywood fel Emcee, Samuel Martin fel Rheolwr Banc, Peter Peverley as Da, Susannah Van Den Berg fel Baruska a James William-Pattison fel Andrej. Bydd y cast hefyd yn cynnwys Emma FraserSeán KeanyHanna Khogali a Conor McFarlane.

Mae Once yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd o’r un enw a gafodd ganmoliaeth y beirniaid: hanes hiraethlon ond calonogol dau enaid coll – bysgiwr stryd o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd – sy’n cwympo mewn cariad yn annisgwyl. Cawn ddilyn eu perthynas dros bum diwrnod byr, ac mae newidiadau mawr yn digwydd i’r ddau mewn ffyrdd bach. Gyda sgôr wreiddiol wych gan gynnwys y gân Falling Slowly a enillodd Oscar, mae Once yn adrodd stori galonogol a hudolus am obaith a breuddwydion.

Bydd Once yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 11 ac 16 Mai 2020.

__________________________________________________________________________________________


CYHOEDDI’R CAST LLAWN AR GYFER EVERYBODY’S TALKING ABOUT JAMIE

Mae Everybody’s Talking About Jamie, y sioe gerdd boblogaidd sydd wedi cael canmoliaeth y beirniaid, yn falch o gyhoeddi’r cast llawn ar gyfer ei thaith o gwmpas gwledydd Prydain yn 2020. Mae dau aelod o’r cast wedi’u cyhoeddi eisoes, sef Layton Williams (Bad EducationBeautiful PeopleBilly Elliot the Musical) sy’n chwarae rhan Jamie yn y West End ar hyn o bryd, ac actor poblogaidd EastEnders Shane Richie fu’n chwarae Hugo/Loco Channelle yn y West End yn gynharach yn 2019. Yn ymuno â nhw, bydd Shobna Gulati (Coronation StreetDinnerladies, Eveybody’s Talking about Jamie yn y West End a’r ffilm sydd ar y gweill) fel Ray, a George Sampson (enillydd Britain’s Got Talent) fel Dean.

Mae gweddill y cast yn cynnwys Amy Ellen Richardson (Margaret New),Lara Denning(Miss Hedge), Sharan Phull(Pritti Pasha), Cameron Johnson (Sandra Bollock / Tad Jamie), John Paul McCue (Laika Virgin), Rhys Taylor (Tray Sophisticay), Richard Appiah-Sarpong (Cy), Simeon Beckett (Levi), Kazmin Borrer (Vicki), Ellis Brownhill (Mickey), Jodie Knight (Fatimah), Jessica Meegan (Bex), Talia Palamathanan (Becca), Adam Taylor (Sayid), Alex Hetherington (Swing), Emma Robotham-Hunt (Swing), Ellie Leah (Dirprwy) a Garry Lee (Dirprwy).

Bydd Everybody’s Talking About Jamie yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 18 a 23 Mai 2020.

__________________________________________________________________________________________

BRING IT ON THE MUSICAL YN TEITHIO I GANOLFAN MILENIWM CYMRU

Mae cwmni Selladoor Productions yn falch o gael cyflwyno Taith newydd sbon o gwmpas gwledydd Prydain ac Iwerddon o Bring It On The Musical, sioe sydd wedi’i henwebu am Wobr Tony.

Mae’r sioe wedi’i hysbrydoli gan y ffilm o’r un enw a ryddhawyd yn y flwyddyn 2000. Mae Bring It On The Musical yn cynnwys sgôr wreiddiol gan Lin-Manuel Miranda a greodd “Hamilton” ac sydd wedi ennill llu o wobrau, a Tom Kitt, cyfansoddwr “Next To Normal” sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer. Mae’r llyfr wedi’i ysgrifennu gan Jeff Whitty, awdur “Avenue Q” sydd wedi ennill Gwobr Tony, a’r geiriau wedi’u hysgrifennu gan Lin-Manuel Miranda ac awdur addasiad llwyfan “High Fidelity”, Amanda Green.

Mae Bring It On The Musical yn mynd â’r gynulleidfa ar daith llawn egni i’r uchelfannau gan roi sylw i gyfeillgarwch, cenfigen, brad a maddeuant – a’r cyfan wedi’i lapio mewn triciau a choreograffi ffrwydrol.

Fe ddylai Campbell, un o freninesau codi hwyl yr ysgol sydd newydd gael ei choroni yn Gapten y Garfan, fod yn cychwyn ar flwyddyn olaf anhygoel yn Truman High School. Pan mae’n cael ei gorfodi i symud i ysgol talcen caled gyfagos, Jackson High, mae Campbell yn poeni bod ei byd ar ben. Ond mae cyfeillgarwch annhebygol yn ei thynnu’n ôl i ganol y frwydr, gyda charfan rymus a’r angerdd i gyflawni’r amhosib.

Bydd Bring It On The Musical yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 23 a 27 Mehefin 2020.

__________________________________________________________________________________________

TAITH PRYDAIN O THE LION, THE WITCH AND THE WARDROBE YN DOD I’R GANOLFAN

Bydd cynhyrchiad llwyfan uchel ei barch Sally Cookson o nofel C.S. LewisThe Lion, the Witch & the Wardrobe, a lwyddodd i dorri record am werthu tocynnau pan agorodd yn y Playhouse yn Leeds yn 2017, ac sy’n llenwi theatrau yn Theatr y Bont yn Llundain ar hyn o bryd, yn cychwyn ar daith fawr o gwmpas gwledydd Prydain ac Iwerddon yn 2020.

Mae’r addasiad rhyfeddol yma o nofel annwyl CS Lewis yn ail-ddweud y stori gyda chymysgedd nodweddiadol o bypedwaith, cerddoriaeth, hiwmor a theatredd Cookson. Bydd y gynulleidfa’n cael camu drwy’r cwpwrdd dillad i fyd rhewllyd a hudol Narnia ar gyfer anturiaeth gyfriniol mewn byd hirbell. Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddynt ffarwelio â Phrydain adeg y rhyfel a dod i gwrdd â Ffawn sy’n siarad, Llew bythgofiadwy a’r Wrach Wen oeraf, greulonaf fu erioed.

Yn ymuno â Cookson a Smith ar y tîm creadigol bydd y dramodydd yn y stafell Adam Peck, y cyfarwyddwr symud Dan Canham, y cyfarwyddwr a’r cynllunydd pypedwaith Craig Leo (oedd yn rhan o dîm creadigol gwreiddiol War Horse y National Theatr), y cynlluniwr goleuo Bruno Poet, y cynlluniwr sain Ian Dickinson a’r cyfansoddwr Benji Bower.

Bydd The Lion, The Witch and The Wardrobe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 1 a 5 Rhagfyr 2020.

__________________________________________________________________________________________

STRICTLY BALLROOM YN DAWNSIO EI FFORDD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU

Mae disgwyl i sioe gerdd boblogaidd Baz Luhrmann Strictly Ballroom lorio cynulleidfaoedd unwaith eto gyda chyhoeddi taith newydd 2020/2021, wedi’i chyfarwyddo gan y dawnsiwr, y coreograffydd a hoff feirniad teledu pawb; y camp-us Craig Revel Horwood. Gan ffocstrotio o gwmpas gwledydd Prydain ac Iwerddon o fis Medi nesaf ymlaen, mae’r sioe yn seiliedig ar ‘Strictly Ballroom’, y ffilm a enillodd wobrau a dod yn ffenomen ryngwladol gan ysbrydoli’r byd i ddawnsio.

Gyda llyfr anhygoel gan Baz Luhrmann a Craig Pearce, a chast bendigedig o dros 20 o berfformwyr o safon fyd-eang, mae Strictly Ballroom yn dod â bywyd newydd i ganeuon eiconig fel Love is in the Air, Perhaps Perhaps Perhaps and Time After Time gydag afiaith dynamig a gorfoleddus. Bydd y daith yma hefyd yn cynnwys ambell gân newydd anhygoel gan artistiaid o fri rhyngwladol gan gynnwys Sia, David Foster ac Eddie Perfect.

Mae Strictly Ballroom The Musical yn adrodd hanes hudolus Scott Hastings, dawnsiwr ifanc dawnus, rhodresgar a gwrthryfelgar. Ar ôl i’w symudiadau dawns radical arwain at ffrae rhwng Scott a Ffederasiwn Awstralia, mae’n cael ei hunan yn dawnsio gyda Fran, dechreuwraig heb ddim symudiadau o gwbl. Gan ddwyn ysbrydoliaeth gan ei gilydd, mae’r pâr annhebygol yn magu digon o blwc i herio confensiwn a herio’u teuluoedd – ac yn darganfod nad oes rhaid bod yn strictly ballroom er mwyn ennill…

Bydd Strictly Ballroom yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 5 a 10 Ebrill 2021.