NEWYDDION CANOLFAN MILENIWM CYMRU – CHWEFROR 2020

NEWYDDION CANOLFAN MILENIWM CYMRU – CHWEFROR 2020

  • YMUNWCH Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU AR GYFER DATHLIADAU DYDD GŴYL DEWI
  • CAST LLAWN WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER MILLION DOLLAR QUARTET
  • AMBER DAVIES A LOUIS SMITH I SERENNU YN BRING IT ON THE MUSICAL
  • CAST WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER SISTER ACT
  • DARREN DAY YN YMUNO Â CHAST FOOTLOOSE THE MUSICAL
  • MAE GŴYL Y LLAIS YN DYCHWELYD
  • SIOE NEWYDD! MAE SCHOOL OF ROCK YN DOD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU

YMUNWCH Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU AR GYFER DATHLIADAU DYDD GŴYL DEWI ARBENNIG

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno Dy Gymru / Your Wales ar ddydd Sul 1 Mawrth, ar lwyfan eiconig Theatr Donald Gordon. Bydd y digwyddiad am ddim yma’n agored i bawb, yn arddangos hunaniaethau Cymreig gwahanol ac yn archwilio’r hyn y mae’n meddwl i fod yn Gymraeg.

Wedi’i gyflwyno gan Radio Platfform, yr orsaf radio sydd dan arweiniad pobl ifanc, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle prin i gynulleidfaoedd weld talent newydd ac artistiaid o lawr gwlad Cymru yn perfformio amrywiaeth amlieithog o berfformiadau ar lwyfan wefreiddiol. Bydd y perfformwyr yn cynnwys Sing Proud CymruQuaynotesBarracwdaJukebox CollectiveWales Tamil Sangam a mwy.

Bydd y perfformiadau’n digwydd rhwng 3pm- 8pm a chaiff gynulleidfaoedd alw i mewn ac allan o’r theatr trwy’r dydd neu aros am gyhyd a dymunant. Bydd yna gynigion arbennig ar fwyd a diod yn siop goffi’r Ganolfan, Caffi, trwy’r dydd.

Bydd Dy Gymru/Your Wales yn digwydd ddydd Sul 1 Mawrth.

__________________________________________________________________________________________

CAST LLAWN WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER MILLION DOLLAR QUARTET

Cyhoeddhwyd y cast llawn ar gyfer taith DU ac Iwerddon y sioe gerdd hynod boblogaidd, byd-enwog, Million Dollar QuartetYn seiliedig ar y sesiwn recordio enwog a ddaeth â’r eiconau roc a rôl  Elvis PresleyJohnny CashJerry Lee Lewis a Carl Perkins at ei gilydd am y tro cyntaf a’r unig dro, Robbie Durham (Johnny Cash), Ross William Wild  (Elvis Presley), Matthew Wycliffe (Carl Perkins) a Katie Ray (Dyanne), gyda rhan Jerry Lee Lewis yn cael ei rhannu ar draws y daith gan Ashley CarruthersMartin Kaye a Matthew Wycliffe, sydd yn dychwelyd i’r  llwyfan yn eu rhannau enwog yn y sioe gerdd arobryn yma a enillodd wobr Tony.

Mae’r cast aml-dalentog o actorion-gerddorion yn ymuno â’r trysor cenedlaethol a gyhoeddwyd ynghynt, Peter Duncan, sydd hefyd yn dychwelyd i’r sioe gerdd boblogaidd. Mae’r cyflwynydd Blue Peter a enwebwyd am wobr Olivier yn chwarae rôl Tad Roc a Rôl, Sam Phillips, unwaith eto, yn dilyn adolygiadau arbennig ar gyfer ei berfformiad yn ystod taith y sioe gerdd o amgylch y DU yn 2017.

Ar 4 Rhagfyr 1956, daeth y pedwar seren gerddorol yma at ei gilydd yn Sun Records yn Memphis, stiwdio’r enwog Sam Phillips, ar gyfer beth oedd y sesiwn jamio mwyaf anhygoel erioed. Daw Million Dollar Quartet â’r noson arbennig honno’n fyw, gyda stori wir y noson fythgofiadwy honno a dathliad unwaith mewn bywyd o bedwar artist recordio eiconig.

Bydd Million Dollar Quartet yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 21-25 Ebrill.

__________________________________________________________________________________________

AMBER DAVIES A LOUIS SMITH I SERENNU YN BRING IT ON THE MUSICAL

Mae Selladoor Worldwide yn falch o gyhoeddi y bydd Amber Davies yn serennu fel ‘Campbell’ wrth ochr Louis Smith fel ‘Cameron’ yn nhaith Bring It On The Musical o amgylch y DU ac Iwerddon.

Wedi’i ysbrydoli gan y ffilm o 2000 o’r un enw, mae Bring It On The Musical yn cynnwys sgôr gwreiddiol gan grëwr arobryn “Hamilton”, Lin-Manuel Miranda ac enillydd y Pulitzer Prize Tom Kitt, cyfansoddwr “Next To Normal”. Ysgrifennwyd y llyfr gan yr awdur arobryn a enillodd wobr Tony am “Avenue Q”, Jeff Whitty ac mae’r geiriau gan Lin-Manuel Miranda ac awdur addasiad llwyfan “High Fidelity”, Amanda Green.

Mae Bring It On The Musical yn mynd â chi ar daith fywiog, egnïol sy’n archwilio cyfeillgarwch, cenfigen, brad a maddeuant – yn llawn coreograffi a thriciau ffrwydrol.

Dylai Campbell, capten y tîm sydd newydd ei choroni, a’i ffyddloniaid fod yn dechrau eu blwyddyn olaf fwyaf ‘cheertastic’ yn Truman High School. Ond pan mae rhaid iddi symud i’r ysgol gyfagos, Jackson High, mae Campbell yn ofni bod ei bywyd wedi dod i ben. Er hyn, mae cyfeillgarwch annhebygol yn taflu Campbell yn ôl i ddadlau â chriw pwerus a’r awydd i gyflawni’r amhosib.

Bydd Bring It On The Musical yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 23-27 Mehefin.

__________________________________________________________________________________________

CAST WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER SISTER ACT

Mae’r cynhyrchwyr Jamie Wilson a Whoopi Goldberg yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Lesley Joseph a Brenda Edwards yn ymuno â chast taith y DU ac Iwerddon o’r sioe gerdd hynod boblogaidd, SISTER ACT. Bydd y sioe yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru 12-17 Hydref.

Bydd Lesley Joseph yn chwarae rhan ‘Mother Superior’ ac yn serennu wrth ochr Brenda Edwards fel ‘Deloris Van Cartier’.

Yn seiliedig ar y ffilm eiconig o 1992, dyma deyrnged ddisglair i bŵer byd-eang cyfeillgarwch, chwaeroliaeth a cherddoriaeth. Mae’r sioe’n adrodd stori ddoniol y ‘difa’ disgo sydd yn mynd ar daith bywyd annisgwyl ar ôl iddi fod yn dyst i lofruddiaeth. Dan ddiogelwch y ddalfa, mae’n cael ei chuddio yn yr unig le na fydd neb yn gallu dod o hyd iddi – lleiandy! Yng ngwisg lleian a dan oruchwyliaeth yr Uchel Fam, mae Deloris yn helpu ei chwiorydd i ddarganfod eu lleisiau ac yn ail-ddarganfod ei llais ei hun yn annisgwyl.

Bydd Sister Act yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 12-17 Hydref.

__________________________________________________________________________________________

DARREN DAY YN YMUNO Â CHAST FOOTLOOSE THE MUSICAL

Bydd Darren Day, sy’n adnabyddus ym myd y sioeau cerdd, yn ymuno â chast Footloose the Musical fel Reverend Moore yn y daith DU newydd sbon sy’n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru 19-24 Hydref.


Bydd Darren yn ymuno â chast ychwanegol yn cynnwys; Geri Allen, Holly Ashton, Jess Barker, Ben Barrow, Alex Fobbester, Josh Hawkins, Lucy Ireland. Evie Rose Lane, Ben Mabberley, Daniel Miles, Tom Mussell, Samantha Richards, Dionne Ward Anderson ac Anna West Lake.

Mae Ren, bachgen o’r ddinas, yn meddwl bod bywyd yn ddigon gwael pan gaiff ei orfodi i symud i ardal ddiarffordd yng nghefn gwlad America. Ond mae ei fyd yn dod i ben pan mae’n cyrraedd Bomont ac yn darganfod bod cerddoriaeth roc a dawnsio wedi eu gwahardd yno. Mae Ren yn anwybyddu’r rheolau ac, yn sydyn, mae’r dref gyfan yn chwyldroi a phawb ar eu traed.

Yn seiliedig ar y ffilm hynod boblogaidd o’r 1980au, mae Footloose The Musical yn sioe sionc, hwyliog sy’n cynnwys rhai o dalentau cerddorol gorau’r DU. Gyda choreograffi arloesol, modern, byddwch yn mwynhau clasuron yr 80au fel Holding out for a Hero, Almost Paradise, Let’s Hear It For The Boy ac, wrth gwrs, y prif drac bythgofiadwy Footloose.

Bydd Footloose the Musical yn cael ei chyflwyno gan Selladoor Productions a Runaway Entertainment, a’i chyfarwyddo gan Racky Plews, gyda choreograffi gan Matt Cole, goruchwyliaeth gerddorol gan Mark Crossland a chynllunio gan Sara Perks gyda chynllun goleuo gan Chris Davey a chynllun sain gan Chris Whybrow.

Bydd Footloose the Musical yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru 19-24 Hydref.

__________________________________________________________________________________________

MAE GŴYL Y LLAIS YN DYCHWELYD

Bydd Gŵyl y Llais – gŵyl gelfyddydau rhyngwladol arbennig Canolfan Mileniwm Cymru – yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar benwythnos olaf mis Hydref 2020 gyda fformat newydd.

Am bedwar diwrnod, bydd cynulleidfaoedd yn cael mwynhau gwledd o berfformiadau a digwyddiadau yn arddangos popeth y gall y llais ei wneud, a pha mor bwysig yw cael un. Bydd ganddynt y dewis o brynu bandiau garddwrn ar gyfer un diwrnod yn unig neu ar gyfer yr ŵyl gyfan, fydd yn rhoi mynediad i dros 60 o berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Portland House, sydd o fewn ychydig funudau ar droed oddi wrth ei gilydd.

Bydd Cate Le Bon yn ymuno â’r ŵyl eleni fel perfformiwr ac fel curadur gwadd ar gyfer rhan o’r rhaglen – a bydd yn dod â detholiad eclectig o leisiau o bob rhan o’r byd gyda hi.

Mae’r perfformiadau – cyhoeddir rhestr lawn ohonynt yn yr haf – yn cynnwys cerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau fydd yn procio’r meddwl, a sgyrsiau ysbrydoledig, gan drochi’r gynulleidfa mewn corws byd-eang o leisiau.

Gallwch brynu Tocynnau Penwythnos Cyntaf i’r Felin ar gyfer Gŵyl y Llais 2020 ar-lein fan hyn www.wmc.org.uk/llais  o 9am ddydd Mercher 19 Chwefror 2020.

Bydd Gŵyl y Llais yn cael ei gynnal rhwng 29 Hydref-1 Tachwedd.

__________________________________________________________________________________________

SIOE NEWYDD! MAE SCHOOL OF ROCK YN DOD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU

Bydd School of Rock – TheMusical, sioe arobryn, hynod boblogaidd Andrew Lloyd Webber o’r West End, yn dechrau ar daith fawr o’r DU yn 2021, ac yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru 12-17 Ebrill 2021.

Yn seiliedig ar y ffilm eiconig gyda Jack Black.  Mae Dewey Finn, sy’n breuddwydio am fod yn seren roc, yn cael ei wrthod gan ei fand ac yn cael ei hun mewn trafferth yn ariannol. Mae’n smalio bod yn  athro cerddoriaeth ac mae’n cael swydd dros dro mewn ysgol elitaidd. Yno mae’n dangos ei hoff eiconau roc i’r disgyblion ac yn trawsffurfio grŵp ohonynt i fod yn fand roc anhygoel  gyda chaneuon sy’n cael eu perfformio’n fyw gan actorion ifanc y cynhyrchiad bob nos gydag egni anferthol!

Agorodd y cynhyrchiad yn New London Theatre (nawr y Gillian Lynne Theatre) ym mis Tachwedd 2016 i adolygiadau pum seren a chymeradwyaeth eang. Aeth ymlaen i ennill gwobr Olivier am Gyflawniad Eithriadol mewn Cerddoriaeth. Daeth rhediad y cynhyrchiad ar Broadway i ben yn y Winter Garden Theatre gyda’r cynhyrchiad teithiol o UDA yn parhau. Agorodd cynhyrchiad Awstralaidd yn Her Majesty’s Theatre ym Melbourne mis Hydref diwethaf.

Mae School of Rock – The Musical yn cynnwys cerddoriaeth newydd sydd wedi’i gyfansoddi gan Andrew Lloyd Webber gyda geiriau gan Glenn Slater (The Little Mermaid, Sister Act) a llyfr gan Julian Fellowes. Wedi’i chyfarwyddo gan Laurence Connor (Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, London Palladium 2019) gyda choreograffi gan JoAnn M.Hunter, set a chynllun gwisgoedd gan Anna Louizos, cynllun goleuo gan Natasha Katz, cynllun sain gan Mick-Potter, goruchwyliaeth gerddorol gan John Rigby gyda Matt Smith fel cyfarwyddwr cerddorol.

Bydd School of Rock – The Musical yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru rhwng 12-17 Ebrill 2021.