CMC YN CAU TAN FIS IONAWR/ WMC ANNOUNCES CLOSURE UNTIL JANUARY

CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN CAU TAN FIS IONAWR 2021, GAN EFFEITHIO AR HYD AT 250 O SWYDDI

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn aros ar gau tan o leiaf fis Ionawr 2021, yn sgil effaith ddinistriol pandemig y Coronafeirws ar y diwydiant theatr.

Ymhlith y cynyrchiadau sydd wedi’u canslo neu eu gohirio mae The Lion King, tymor hydref Opera Cenedlaethol Cymru, The Book of Mormon a The Phantom of the Opera, a oedd i gyd i fod i gael eu dangos yn theatr 1,850 sedd y Ganolfan, Theatr Donald Gordon. Fydd gŵyl ryngwladol flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru, Gŵyl y Llais, ddim yn mynd yn ei blaen chwaith fel y bwriadwyd rhwng 29 Hydref ac 1 Tachwedd 2020.

Fe allai hyn effeithio ar hyd at 250 o swyddi i gyd, ac mae 85 o staff parhaol mewn perygl o gael eu diswyddo. Bydd y cau hefyd yn cael effaith ar waith y 300 o wirfoddolwyr sydd gan y Ganolfan ac yn effeithio ar artistiaid lleol a llawrydd y mae eu gwaith yn cael ei gyflwyno yng ngofodau perfformio’r Ganolfan, gan gynnwys lleoliad 250 sedd Stiwdio Weston a’r lolfa cabaret sy’n dal 160 o bobl, sef Ffresh.

Caeodd Canolfan Mileniwm Cymru ei drysau ar 17 Mawrth 2020 pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyngor ar gadw pellter cymdeithasol ac ymgynnull mewn torf. Rhagwelir y bydd rhaid i’r Ganolfan aros ar gau am hyd yn oed yn hirach o bosib, a bydd penderfyniad ar gau tan fis Ebrill 2021 yn cael ei wneud ym mis Medi. Os bydd y Ganolfan yn aros ar gau am flwyddyn, rhagwelir y bydd y sefydliad yn colli gwerth tua £20 miliwn o refeniw.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, Mathew Milsom: “Mae’n ofid mawr i ni ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau Canolfan Mileniwm Cymru tan fis Ionawr 2021. Mae pandemig y Coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol ar theatrau ledled Prydain ac, fel llawer un arall, rydyn ni wedi dod i’r casgliad na fyddwn ni’n gallu dangos perfformiadau ar ein llwyfannau eto tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. O dan yr amgylchiadau yma, allwn ni ddim agor y theatr mewn ffordd sy’n darparu profiad da i’r gynulleidfa ac sy’n hyfyw yn economaidd i’r Ganolfan a’r cynhyrchwyr sy’n cyflwyno’u gwaith yma.

“Mae diogelwch ein cynulleidfa, ein staff a’n perfformwyr yn fater o’r pwys mwyaf, ac felly mae’n bosib y bydd rhaid i ni ystyried ymestyn y cyfnod cau wrth i gyngor y llywodraeth ar ymgynnull mewn torf ddod yn gliriach yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rydyn ni hefyd yn disgwyl y bydd tarfu sylweddol o ran y sioeau teithiol fydd ar gael am sawl blwyddyn i ddod, wrth i gynyrchiadau gael eu canslo heb i ddim sioeau newydd gael eu creu chwaith.

“Rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau yma nawr er mwyn sicrhau dyfodol y Ganolfan – cartref celfyddydau Cymru – sy’n denu dros 1.6m o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfrannu £70m at economi Cymru. Rydyn ni wedi colli 85% o’n hincwm dros nos ac rydyn ni’n ceisio cael cyllid ar gyfer y tymor byr a’r tymor hwy. Tra byddwn ni ar gau, fe wnawn ni bopeth allwn ni i gadw’n gwaith artistig ac elusennol i fynd, ac i sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer ailagor cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol bosib.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gampws diwylliannol ac mae’n gartref i wyth sefydliad diwylliannol, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru; Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’i neuadd gyngerdd 350 sedd, Neuadd Hoddinott. Cefnogir hyd at 1,200 o swyddi ar safle Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r Ganolfan wrthi’n cysylltu â phobl sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer sioeau yr effeithiwyd arnynt er mwyn trefnu ad-daliadau a/neu aildrefnu ar gyfer dyddiadau yn y dyfodol. Mae newidiadau i berfformiadau wedi’u hadlewyrchu ar y wefan – www.yganolfan.org.uk.