CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN AIL AGOR YN LLAWN
O ddydd Iau 9 Medi 2021, bydd ein hadeilad yn ailagor yn llawn i gwsmeriaid a’r cyhoedd.
Rydym yn parhau i baratoi’n raddol ac yn ddiogel ar gyfer y dyddiad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cynulleidfaoedd, perfformwyr, criw, staff a gwirfoddolwyr mor ddiogel â phosibl wrth i ni ddod allan o’r pandemig.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn barod i gyflwyno sioeau heb ymbellhau cymdeithasol yn ein Theatr Donald Gordon boblogaidd o 9 Medi ar gyfer Tymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru, gyda The Barber of Seville a Madam Butterfly. Cysylltwn yn uniongyrchol â chwsmeriaid ar gyfer y perfformiadau hyn, a’u hysbysebwyd yn flaenorol fel rhai sydd wedi ymbellhau’n gymdeithasol, â manylion pellach.
Drwy gydol yr haf, mae gennym raglen o weithgarwch ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys ein Tymor Cabaret ar bellter cymdeithasol, Eich Llais: Arddangosfa, Carnifal Trebiwt, a bwyd stryd a bar Teras sydd ar agor bob dydd.
Pan fyddwch yn ymweld â ni, byddwch yn sylwi ein bod yn mynd drwy rai newidiadau yn yr adeilad ar hyn o bryd i wella’r cyfleusterau, a bydd y rhain yn cael eu cwblhau yn y misoedd i ddod.
Gofynnwn i gwsmeriaid barhau i fod yn ystyriol i’n staff a pharhau i fod yn ofalus drwy wisgo masgiau wyneb yn ein mannau perfformio ac wrth gerdded o amgylch yr adeilad, yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein mesurau diogelwch Covid yma
Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid, ein cefnogwyr a’n cymuned am eu hamynedd a’u cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru yn fuan iawn.
WALES MILLENNIUM CENTRE TO REOPEN FULLY
From Thursday 9 September 2021, our building will be fully reopening to customers and the public.
We’re continuing to prepare gradually and safely for this date to ensure that we keep our audiences, performers, crew, staff and volunteers as safe as possible as we emerge from the pandemic.
This means that we will be ready to present shows without social distancing in our much-loved Donald Gordon Theatre from 9 September for Welsh National Opera’s Autumn Season, with The Barber of Seville and Madam Butterfly. Customers for these performances, previously advertised as socially distanced, will be contacted directly with further details.
Throughout the summer, we have a programme of activity for a range of audiences, including our socially distanced Cabaret Season, Your Voice: An Exhibition, Butetown Carnival, and the Teras street food and bar which is open daily.
When you visit us, you will notice that we are currently undergoing some changes within the building to improve the facilities, and these will be completed in the months ahead.
We ask customers to remain considerate to our staff and to continue to exercise caution by wearing face masks in our performance spaces and when walking around the building, in line with Welsh Government recommendations. Information on our Covid safety measures can be found here.
We would like to thank our customers, supporters and community for their patience and support. We look forward to welcoming you back to Wales Millennium Centre very soon.