THE MIRROR CRACK’D GAN GANOLFAN MILENIWM CYMRU A WILTSHIRE CREATIVES I’W LWYFANNU YNG NGHANOLFAN GELFYDDYDAU FWYAF INDIA

THE MIRROR CRACK’D GAN GANOLFAN MILENIWM CYMRU A WILTSHIRE CREATIVES I’W LWYFANNU YNG NGHANOLFAN GELFYDDYDAU FWYAF INDIA

Bydd cynhyrchiad newydd o The Mirror Crack’d gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Wiltshire Creative yn cael ei berfformio yn y National Centre for the Performing Arts ym Mumbai, India, rhwng 30 Ionawr a 9 Chwefror 2020.

Cafodd y cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol o nofel Agatha Christie, The Mirror Crack’d from Side to Side, a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Rachel Wagstaff a’i gynhyrchu gan Melly Still, ei weld gan dros 28,000 o bobl yn Salisbury, Dulyn, Caergrawnt a Chaerdydd rhwng Chwefror ac Ebrill 2019.

Mae’r cynhyrchiad yn addasiad newydd sbon ar gyfer cynulleidfaoedd yn India gan yr awdur Ayeesha Menon, gyda Melly Still yn dychwelyd fel cyfarwyddwr. Mae’n nodi ymddangosiad cyntaf Canolfan Mileniwm Cymru fel cynhyrchydd yn Asia.

Wrth gyhoeddi’r cynhyrchiad newydd, dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru: “Ein nod yw creu gwaith arloesol a difyr sy’n arddangos Cymru i’r byd, ac yn tanio dychymyg y gynulleidfa. Mae ein cynyrchiadau eisoes wedi teithio i Affrica, America ac Awstralia, ac rydw i wrth fy modd taw Asia fydd ein cyrchfan nesaf, gan gyd-weithio ag NCPA i ychwanegu naws gyffrous, Indiaidd wreiddiol i’r clasur Prydeinig hwn.”

Dywedodd Mr Khushroo N. Suntook, y Gweledydd a Chadeirydd NCPA: “Mae’r NCPA yn falch iawn o gyflwyno’r cynhyrchiad arbennig hwn o The Mirror Crack’d, gan roi iddo flas unigryw o’r India. Mae’r dehongliad Indiaidd newydd hwn yn enghraifft wych o’n huchelgais ar gyfer cynyrchiadau NCPA, sef creu cynnwys arloesol mewn cydweithrediad â’r artistiaid gorau yma yn India yn ogystal ag yn rhyngwladol. Gall ein cynulleidfaoedd edrych ymlaen at noson wych o ddiddanwch yn yr hyn sy’n addo bod yn uchafbwynt yng nghalendr theatr Mumbai yn 2020.”

Dywedodd Gareth Machin, Cyfarwyddwr Artistig Wiltshire Creative: “Rydym yn falch iawn y bydd ein cynhyrchiad ni o’r clasur hwn gan Agatha Christie yn cael ei fwynhau gan gynulleidfaoedd ym Mumbai; gobeithiwn y byddan nhw’n mwynhau’r troeon clyfar yn y plot gymaint ag y mae cynulleidfaoedd yn y DU wedi ei wneud.”