THE BEAUTY PARADE – CYNHYRCHIAD CANOLFAN MILENIWM CYMRU A KAITE O’REILLY, GYDAG ARTISTIAID BYDDAR A SY’N CLYWED – I ADRODD STORI ANHYGOEL O’R AIL RYFEL BYD

THE BEAUTY PARADE – Cynhyrchiad canolfan mileniwm Cymru a Kaite O’Reilly, GYDAG artistiaid byddar a sy’n clywed – i adrodd STORI ANHYGOEL O’r Ail Ryfel Byd

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi sioe theatr newydd sbon ac arloesol sy’n cael ei harwain gan fenywod a’i chreu gan artistiaid Byddar ac artistiaid sy’n gallu clywed. Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae The Beauty Parade yn talu teyrnged i arwyr di-glod un o weithrediadau unigryw yr Ail Ryfel Byd.

Yr 1940au yw’r cyfnod, yng nghanol y rhyfel. Mae’r dynion yn ymladd ar flaen y gad. Dyw menywod ddim yn cymryd rhan yn y brwydro; nhw sy’n cadw’r  fflam i losgi ar yr aelwyd, yn cadw’r ffatrïoedd i fynd, ac yn bwydo’r plant yn y cartref. Neu dyna maen nhw’n ei ddweud wrthon ni, o leiaf. 

Roedd Cytundeb Geneva yn gwahardd menywod rhag cymryd rhan yn nyletswyddau ymladd.  Er mwyn osgoi hyn, aeth yr Adran Gweithrediadau Arbennig ati i recriwtio byddin gyfrinachol o sifiliaid, yn cynnwys menywod ifanc o Gymru a Lloegr a oedd yn siarad Ffrangeg. Cafodd y menywod ond ychydig wythnosau o hyfforddiant cyn cael eu gosod i weithio gyda’r Fyddin Gêl, yn paratoi , yng ngeiriau Churchill, ‘to set Europe ablaze’.

Daeth y dramodwr arloesol Kaite O’Reilly, y cyfansoddwr Rebecca Applin a’r perfformiwr ac arbenigwr iaith weledol Sophie Stone ynghŷd i greu’r cynhyrchiad newydd yma, sy’n dilyn grŵp o fenywod cyffredin a cafodd eu tynnu o’u bywydau dinod a’u parasiwtio y tu ôl i linellau’r gelyn. Daeth y menywod hyn yn sabotwyr ac yn llofruddion tawel, yn tyngu llw i gyfrinachedd ond yn gweithredu ar rai o genadaethau mwyaf peryglus y rhyfel.

Mae The Beauty Parade yn cyfuno cerddoriaeth fyw, caneuon atgofus, deialog ac iaith weledol ac yn gweithio’n gynhwysol rhwng diwylliannau pobl Byddar a phobl sy’n clywedol i roi dehongliad aml-synhwyrol o’r stori anhygoel yma. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn Stiwdio Weston y Ganolfan rhwng 5-14 Mawrth 2020. Mae tocynnau ar werth nawr.

Dywed y dramodwr Kaite O’Reilly: “Mae’n bleser ac yn fraint cyflwyno ein dehongliad  o sut aeth y meywod ‘arferol’ yma ati i gyflawni cymaint o bethau anhygoel. Roeddent yn gweithio’n gudd ac yn ddirgel i wrthsefyll y gelyn – a hynny yn y blynyddoedd cyn glaniadau D-Day. Mae hefyd yn fraint gweithio rhwng diwylliannau pobl Byddar a phobl y’n clywed ar gydweithrediad sy’n dod â nifer o ieithoedd ynghyd: iaith weledol, tafluniadau, gair llafar, canu a cherddoriaeth. Mae’r gwaith yn anarferol – ond, wrth gwrs, roedd y menywod a ysbrydolodd y gwaith yn anarferol hefyd.”

Yn cyflwyno’r sioe, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig y Ganolfan, Graeme Farrow: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch iawn o gyd-gynhyrchu, ac yn gyffrous i rannu The Beauty Parade gyda chynulleidfaoedd ym mis Mawrth. Yn wir, dyma gynhyrchiad arloesol sydd wedi’i greu gan dîm o artistiaid benywaidd arweiniol, gyda phrofiad o adrodd straeon anhygoel mewn ffordd anhygoel. Mae’n ddifyr, ffeithiol, hygyrch ac yn torri tir newydd., ae’n argoeli i fod yn ychwanegiad gwefreiddiol i’n calendr o sioeau yn 2020.”