Datganiad i’r Wasg: CMC I LWYFANNU Y SIOE GERDDOROL UN DYN GRANDMOTHER’S CLOSET (AND WHAT I FOUND THERE)

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyd-gynhyrchu sioe gerdd newydd sbon gan yr awdur tro cyntaf (a gwneuthurwr theatr hir-amser) Luke Hereford. Mae Grandmother’s Closet (and What I Found There…) yn ddrama hunangofiannol am hunaniaethau queer, a sut y dysgodd Luke i garu ei fam-gu a’i chwpwrdd dillad lliwgar.

Yn cynnwys trefniadau modern o glasuron pop gan eiconau benywaidd gan gynnwys Madonna, Kate Bush, Tori Amos, Judy Garland a Björk, a’u cyfarwyddo gan gyfarwyddwr am y tro cyntaf (ac actor amser hir) François Pandolfo, bydd y cynhyrchiad newydd sbon hwn yn cael ei berfformio 20-23 Ebrill 2022 yn Stiwdio Weston y Ganolfan.

Bydd dau berfformiad matinee sy’n ystyriol o ddementia ar ddydd Gwener 22 a Sad 23 Ebrill.

This musical romp down the Yellow Brick Road promises mischief and mashups, dresses and divas, and a whole lot of heart.

Mae Grandmother’s Closet (and What I Found There…) yn bosib oherwydd cefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth gyhoeddi’r sioe, dywedodd yr awdur a’r perfformiwr Luke Hereford: “Mae’r ddrama hon yn ymddangosiad o ysbryd llawen, hudolus fy mam-gu; fy mhrif alluogwr. Mae pob person cwiar wedi bod ar daith o hunan-ddarganfod ar ryw adeg yn eu bywyd, ac er ein bod yn y rhan fwyaf o’r daith honno’n un unig, os ydym yn lwcus cawn ein harwain drwyddo gan adegau ffurfiannol annisgwyl gyda chodwyr hwyl personol annisgwyl. Mae Grandmother’s Closet yn anrhydeddu’r eiliadau a’r codwyr hwyl hynny, grym y cof, ac mae’n saliwt i’r grefft sanctaidd o wisgo i fyny.”

Dywedodd Cynhyrchydd Canolfan Mileniwm Cymru, Peter Darney: “Mae hon yn sioe hardd a phersonol am berthynas Luke â’i fam-gu a’r effaith y mae ei chefnogaeth iddo wedi’i chael arno fel artist. Rydym yn falch iawn o gomisiynu cynhyrchiad cyntaf Luke fel awdur, ac un cyntaf François fel cyfarwyddwr, gan gyfuno eu doniau sylweddol i wneud sioe dosturiol llawn dathlu.”

Hyfforddodd yr awdur a’r perfformiwr Luke Hereford (fe/nhw) yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru. Mae Luke wedi gweithio fel cyfarwyddwr gyda National Theatre Wales, Tron Glasgow, Lincoln Center Theater, a Theatr y Sherman, fel cyfrannog ar y JMK Directors Programme, ariannwyd gan y Carne Trust. Fel Cyfarwyddwr Ymweld ar gyfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae ei sioeau’n cynnwys Growth, Spring Awakening, Every Day a Little Death a A New BrainFel Artist Cyswllt ar gyfer Leeway Productions, mae Luke yn datblygu Queerway; cylch caneuon air am air sy’n dathlu bywyd cwiar yng Nghymru, ac mi oedd yn Isgyfarwyddwr ar gyfer eu cynhyrchiad poblogaidd The Last Five Years.


Hyfforddodd y Cyfarwyddwr François Pandolfo (fe) yn East 15 Acting School ac mae e wedi gweithio’n eang fel actor ar draws theatr, teledu a radio. Mae ymddangosiadau teledu’n cynnwys Quintis yn Doctor Who, Tati’s Hotel, Casualty, Doctors, Eastenders a Baker Boys. Fe oedd hefyd y cymeriad rheolaidd Roberto yn The Tuckers gan y BBC, Dread-head yn Wasted a Fraser yn Big Boys ar gyfer Channel 4 Comedy. Mae ymddangosiadau theatr François yn cynnwys The Taming of the Shrew, The Motherf***er with the Hat ac Alice in Wonderland ar gyfer Theatr y Sherman, A Small Family Business, Macbeth a A History of Falling Things ar gyfer Theatr Clwyd, Lifted by Beauty a Mission Control ar gyfer National Theatre Wales, Wuthering Heights ar gyfer Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, The Compleat Female Stage Beauty ac A Midsummer Night’s Dream ar gyfer Mappa Mundi, The Magic Flute ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Double Vision ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru a Bad Girls ar gyfer Polka Theatre. François yw cyd-gyfarwyddwr a phartner difficult|stage. Cynyrchiadau’n cynnwys: A Cold Spread a The World of Work, a’r sioeau Alix in Wundergarten a Looking Through Glass, ill dwy wedi’u hysgrifennu gan François.

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd David George Harrington yn gyfansoddwr, trefnwr a chyfarwyddwr cerdd sydd wedi gweithio a pherfformio’n broffesiynol am 12 mlynedd ar draws y DU. Mae e wedi trefnu cerddoriaeth yn fasnachol ar gyfer cleientiaid sy’n cynnwys Katherine Jenkins, Connie Fisher, Jonny Wilkes, Aled Jones, Shirley Bassey, ac mae ei gerddoriaeth wedi’i berfformio gan y London Philharmonic a’r London Concert Orchestra, Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Cenedlaethol Cymru’r BBC a Cory Brass Band. Mae e’n trefnu’n rheolaidd ar gyfer Decca Records, Warner Music Group ac wedi darlledu ei gerddoriaeth ar ITV, BBC, a BBC Radio 2.  

Mae David yn cydweithio’n rheolaidd gyda pherfformwyr arweiniol y West End ac wrthi yn ysgrifennu dau sioe gerdd ar hyn o bryd.